Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Tachwedd 2019

 

 

Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Cyllideb 2020 - 2021

1.     Ar 5 Gorffennaf 2019, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes gyda dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2020-21, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2.

2.    Ar 16 Gorffennaf, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, wedi iddo ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid, lluniodd y Pwyllgor Busnes amserlen er mwyn ystyried cyllideb 2020-21.

3.    Ar 24 Medi 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 20.6, ac wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid, diwygiodd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ar gyfer ystyried cyllideb 2020-21.

4.    Ar 7 Tachwedd 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 20.6, diwygiodd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ar gyfer ystyried cyllideb 2020-21 unwaith eto, fel a ganlyn:

 

Dyddiad

 

Gosod cynigion amlinellol ar gyfer cyllideb y Llywodraeth

 

16 Rhagfyr 2019

Gosod cynigion manwl ar gyfer cyllideb y Llywodraeth

16 Rhagfyr 2019

Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynigion amlinellol cyllideb y Llywodraeth

 

31 Ionawr 2020

Y dyddiad cau i'r pwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb

 

31 Ionawr 2020

Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol

 

3 Mawrth 2020